Ymgyrch EWRO 2021 – Ludlow yn barod i ganfod ein ffawd
International
20 Chwefror 2019

Ymgyrch EWRO 2021 – Ludlow yn barod i ganfod ein ffawd

Dydd Iau 21 Chwefror, bydd carfan menywod Cymru yn canfod pwy fyddant yn eu hwynebu yn ymgyrch ragbrofol Ewro 2021 UEFA cyn gadael am wersyll hyfforddi yn Marbella.

Bydd y nifer fwyaf erioed o wledydd yn cymryd rhan yng ngham rhagbrofol y gystadleuaeth wrth i 47 o wledydd fwrw eu gobeithion ar ymuno â Lloegr, a fydd yn cynnal y gystadleuaeth, yn y rowndiau terfynol o 16 tîm ym mis Gorffennaf 2021. Mae Cymru ym Mhot 2 am y tro cyntaf yn dilyn cyfres o ganlyniadau gwerth chweil yn ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2019 FIFA, ond mae’r rheolwr Jayne Ludlow yn gwerthfawrogi na fydd hi’n daith hawdd.

“Mae’n enfawr,” eglurodd Ludlow wrth FAW.cymru. “Mae’n golygu y byddwn ni yn yr un grŵp rhagbrofol ag un tîm mawr, yn lle dau fel sy’n digwydd fel arfer. Gobeithio y bydd yn rhoi mwy o gyfle i ni wireddu ein gobeithion, sef cyrraedd rowndiau terfynol twrnamaint mawr. Ond wedi dweud hynny, mae’n mynd i fod yn galed, a phob tîm yn cyflwyno her wahanol.”

Er mai siom a ddaeth ar ddiwedd yr ymgyrch ragbrofol ddiwethaf wrth golli i Loegr, roedd yn gyfnod arwyddocaol i gêm y merched yng Nghymru. Yr her nawr yw adeiladu ar hynny drwy baratoi gyda dwy gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon mewn gwersyll hyfforddi yn Marbella ddiwedd y mis i ymgyfarwyddo â chwarae mewn tywydd cynnes.

P190218-023-Wales_Squad_Annpuncement.jpg

Mae’r penderfyniad yn newid sylweddol i gyfnod rhyngwladol sy’n hynod o brysur i Ludlow a’i charfan fel arfer wrth iddynt ddewis chwarae mewn twrnameintiau bychain ar draws Ewrop ym mis Chwefror a mis Mawrth. Ond yn ôl Ludlow, mae’r gwaith paratoi ar gyfer yr ymgyrch ragbrofol hollbwysig nesaf yn allweddol.

“I wlad fach fel Cymru mae’n dipyn o dasg chwarae pedair gêm mewn 10 diwrnod. Mae’r twrnameintiau’n grêt i wledydd sydd â charfannau enfawr a digon o chwaraewyr i ddewis o’u plith, mae’n gyfle i roi cynnig ar bethau newydd. Dydyn ni ddim yn gallu gwneud hynny.

“Da ni’n rhoi lot o bwysau ar chwaraewyr penodol i chwarae bob gêm, a dydy hynny ddim yn realistig. Felly nawr ‘da ni’n dilyn llwybr sy’n gweddu i ni, mewn amgylchedd sy’n cael ei osod gennym ni. Mae’n wych gallu rhoi cynnig ar wahanol ddewisiadau tactegol cyn yr ymgyrch nesaf.”

Collodd y tîm 2-0 oddi cartref i’r Eidal ym mis Ionawr ac ar ôl y ddwy gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon (28 Chwefror a 5 Mawrth), byddant yn dychwelyd i Gasnewydd ar 4 Ebrill i herio’r Weriniaeth Tsiec mewn gêm ryngwladol gyfeillgar yn Rodney Parade.

“Mae yna dimau benywaidd gwych y dyddiau yma,” eglurodd Ludlow. “Mae wir angen i ni godi ein safonau dros y chwe mis nesaf. Un peth y mae’n rhaid i ni fod yn y dyfodol yw tîm sy’n gallu addasu ac ymateb i wahanol amgylcheddau pan fydd gofyn i ni wneud hynny. Does dim wir ots pwy fyddwn ni’n eu hwynebu yn yr ymgyrch ragbrofol. Mae’n rhaid i ni wneud ein gwaith cartref cyn y gemau hynny, a sicrhau ein bod ni’n paratoi’n arbennig o dda.”

Ymgyrch ragbrofol EWRO 2021 UEFA – y cyfan sydd angen i chi ei wybod

Bydd 48 o wledydd yn cymryd rhan yn ymgyrch ragbrofol Ewro 2021 Menywod UEFA gyda dim ond Lloegr yn cael eu heithrio o’r cam hwn gan eu bod yn cynnal y gystadleuaeth. Mae tîm menywod Cyprus yn ymddangos yn eu cystadleuaeth gyntaf ar y lefel hon tra bo Kosovo hefyd yn ymddangos am y tro cyntaf yn y gystadleuaeth, ac Azerbaijan am y tro cyntaf ers 2009.

Bydd naw grŵp i gyd: dau gyda chwe thîm a saith gyda phump. Bydd pob tîm yn cael ei ddosbarthu i bum pot (pedwar o naw ac un o 11). Yn seiliedig ar benderfyniadau Pwyllgor Gweithredol UEFA sy’n ddilys pan ddaw’r enwau o’r het, ni all Kosovo wynebu naill ai Bosnia-Herzegovina na Serbia.

Bydd gemau cartref ac oddi cartref yn cael eu chwarae rhwng 26 Awst 2019 a 22 Medi 2020.

Dosbarthu’r timau

Pot 1: Ffrainc, Yr Almaen, Yr Iseldiroedd (enillwyr presennol), Sbaen, Sweden, Norwy, Y Swistir, Yr Alban, Yr Eidal

Pot 2: Awstria, Denmarc, Gwlad yr Iâ, Gwlad Belg, Rwsia, Cymru, Ukrain, Y Ffindir, Gweriniaeth Tsiec.

Pot 3: Portiwgal, Gweriniaeth Iwerddon, Gwlad Pwyl, Rwmania, Serbia, Slofenia, Hwngari, Bosnia- Herzegovina, Belarws.

Pot 4: Twrci, Slofacia, Croatia, Gogledd Iwerddon, Gwlad Groeg, Israel, Kazakhstan, Albania, Moldofa.

Pot 5: Ynysoedd y Ffaro, Malta, Cyn-Weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia, Estonia, Montenegro, Georgia, Latfia, Lithiwania, Azerbaijan, Cyprus, Kosovo.

Bydd enillwyr y grwpiau a thri o’r timau a ddaw yn ail sydd â’r record gorau yn erbyn y timau sy’n gyntaf, trydydd, pedwerydd a phumed yn eu hadrannau yn ymuno â Lloegr yn y twrnamaint terfynol. Bydd y chwe thîm arall a ddaw’n ail yn chwarae mewn gemau ail-gyfle ym mis Hydref 2020 ar gyfer y tri lle sy’n weddill.

Calendr

Tynnu’r enwau o’r het ar gyfer yr ymgyrch ragbrofol: 12:30 amser y Deyrnas Unedig, 21 Chwefror 2019, Nyon.

Dyddiadau’r ymgyrch ragbrofol: 26 Awst–3 Medi 2019, 30 Medi–8 Hydref 2019, 4–12 Tachwedd 2019, 2–11 Mawrth 2020, 6–14 Ebrill 2020, 1–9 Mehefin 2020, 14–22 Medi 2020.

Tynnu’r enwau o’r het ar gyfer y gemau ail-gyfle: 25 Medi 2020, Nyon.

Gemau ail-gyfle (dau gymal): 19-27 Hydref 2020.

Tynnu’r enwau o’r het ar gyfer y twrnamaint terfynol: diwedd 2020, Lloegr.

Twrnamaint terfynol: Gorffennaf 2021, Lloegr.