YMDDIRIEDOLAETH CBDC YN LANSIO RHAGLEN PÊL-DROED TEULUOL
About FAW
7 Awst 2020

YMDDIRIEDOLAETH CBDC YN LANSIO RHAGLEN PÊL-DROED TEULUOL

Mae CBDC yn gyffrous i lansio ‘Pêl-droed Teuluol’, rhaglen ar-lein am ddim wedi’i ddylunio i annog teuluoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog fydd yn helpu datblygu sgiliau symud sylfaenol plant.

Dysgwch fwy am raglen Pêl-droed Teuluol a gweld yr holl sesiynau yma:  fawtrust.cymru/grassroots/footiefamilies/

Mae’r rhaglen aml sgil ar gyfer plant rhwng 2-5 oed, i wneud ar y cyd gyda’u rhieni neu warchodwyr, yn cynnwys pedwar sesiwn hwyliog a deniadol y gallwch chi wneud adref wedi’i seilio ar themâu straeon tylwyth teg, gan gynnwys ‘Traeth y Môr-ladron’ a’r ‘Castell Hud’, a gellir gweld yr adnoddau yma.

Mae Ymddiriedolaeth CBDC yn adnabod y pwysigrwydd o gefnogi pobl ifanc i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau sylfaenol ar gyfer dyfodol corfforol actif, gan fod y sgiliau hyn yn hanfodol i blant gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol drwy gydol eu bywyd.

Yn ystod misoedd yr haf, mae Ymddiriedolaeth CBDC yn gobeithio y gall teuluoedd ddefnyddio pêl-droed i helpu datblygiad llythrennedd corfforol plant ifanc a datblygu casgliad o sgiliau megis cydbwysedd, neidio, taflu a chicio.

Gwyliwch y fideo a rhannwch eich taith Pêl-droed Teuluol ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #FootieFamilies