Tair gôl i Harding yng ngêm agoriadol Cymru
International
29 Awst 2019

Tair gôl i Harding yng ngêm agoriadol Cymru

Gyda thair gôl gan Natasha Harding, cafodd Cymru’r cychwyn delfrydol yn eu gêm agoriadol yn eu hymgyrch agoriadol Ewro 2021 UEFA, gyda buddugoliaeth gref o 6-1 yn erbyn yr Ynysoedd Ffaro yn Torshavn.

Roedd dau newid gan Jayne Ludlow o’r tîm sicrhaodd fuddugoliaeth yn erbyn Seland Newydd ym mis Mehefin, gydag Angharad James yn dychwelyd i’r tîm ac Emma Jones yn cael ei lle ymysg yr ymosodwyr.

Dechreuodd Gymru ar y droed flaen, gyda Harding yn penio ei gôl gyntaf ar ôl pum munud, cyn i Emma Jones ddyblu’r sgôr 90 eiliad yn ddiweddarach. Sgoriodd Jones ei gôl gyntaf dros Gymru gydag ergyd i gornel waelod y rhwyd o ochr y bocs.

Ar ôl cychwyn cryf, fe allai Cymru fod wedi mynd ar y blaen eto, pan gafodd Harding ei thynnu i lawr yn y cwrt cosbi. Kayleigh Green aeth ymlaen i gymryd y gic o’r smotyn ond fe aeth y bêl dros y bar.

P20190829-017-Faroe_Islands_Wales.jpg

Fe wnaeth Ludlow un newid ar ddechrau’r ail hanner, gan ddod â’r chwaraewr canol cae Josie Green ymlaen ar gyfer ei gêm gyntaf dros Gymru mewn pum mlynedd. Yn fuan yn yr ail hanner, fe wnaeth Cymru ychwanegu at eu goliau, gyda Harding yn sgorio cic o’r smotyn wedi i Green gael ei thynnu lawr yn y cwrt cosbi.

Roedd Harding ar dân erbyn hyn a chafodd ei gwobrwyo eto funudau’n ddiweddarach. Ar ôl rhediad gwych i’r cwrt cosbi, pasiodd i Emma Jones ond fe gafodd Arge o amddiffyn yr Ynysoedd Ffaro gyffyrddiad a roddodd y bêl yn ei rhwyd ei hun.

Daeth trydedd gôl Harding gyda deng munud yn weddill, a honno oedd gôl y gêm. Rhedodd Harding fewn ac allan drwy amddiffynwyr yr Ynysoedd Ffaro unwaith yn rhagor tuag at y llinell gefn, cyn ergydio’r bêl dros y gôl geidwad yn gelfydd i gefn y rhwyd ar y postyn pellaf.

Mae'n grêt dechrau gyda chwe gôl heb ildio ond mae lot o sialensiau i ddod, gan ddechrau efo Gogledd Iwerddon ddydd Mawrth. Dwi'n hapus iawn efo ymdrech y tîm a dwi'n falch iawn dros Tash am sgorio tair heno. Fe berfformiodd hi'n dda a gobeithio bydd hynny'n parhau ar gyfer gweddill yr ymgyrch. 

– Jayne Ludlow

Gyda Chymru yn arwain o 5 gôl, manteisiodd Ludlow ar y cyfle i roi cap cyntaf ar y lefel uwch ryngwladol i Carrie Jones, sydd ddim ond yn bymtheg mlwydd oed. Mae hi eisoes wedi capteinio Cymru ar lefel dan 17 ac fe roddodd Ludlow hi ymysg y tri ymosodwr ar gyfer munudau olaf y gêm.

Daeth y chweched gôl yng nghyffyrddiad olaf y gêm o symudiad gwych o chwarae gosod. Cipiodd Rhiannon Roberts ei gôl gyntaf dros Gymru wrth i’r amddiffynnwr drechu ei gwrthwynebydd ar y postyn cefn, gyda pheniad o gic cornel yn coroni perfformiad trawiadol gan garfan Ludlow.

Cymru: 1. L O'Sullivan, 2. L Dykes, 3. G Evans, 4. S Ingle, 5. R Roberts, 14. H Ladd, 6. E Hughes (13. J Green 46'), 7. E Jones (20. C Jones 82'), 8. A James, 9. K Green (19. M Wynne 74'), 11. N Harding. Subs not used: 12. C Skinner, 10. H Ward, 15. C Estcourt, 16. K Nolan, 17. L Woodham, 18. A Filbey.