Siom i Gymru yn rownd derfynol Cwpan Tsieina
International
26 Mawrth 2018

Siom i Gymru yn rownd derfynol Cwpan Tsieina

Sgoriodd Edison Cavani yn ei ganfed gêm i Wrwgwai wrth i Gymru colli allan ar ennill ei chwpan gyntaf ers 1937.

CYMRU 1-0 WRWGWAI

Cwpan Tsieina 2018

  • Dydd Llun, 26 Mawrth
  • Stadiwm Guangxi, Nanning

Roedd Cymru o dan bwysau yn gynnar wrth i ymosodwr Barcelona Luis Suarez taro’r postyn dwywaith yn y chwarter awr agoriadol.  Daeth tîm Ryan Giggs nol mewn i’r gêm a ddaeth Andy King yn agos dwywaith gyda’i gynigion o du allan i’r gell cosbi.

Gyda Chymru yn mynd mewn i’r gêm o gefn fuddugoliaeth 6-0 yn erbyn Tsieina yn y rownd gynderfynol, roedd y tîm yn edrych yn weddol gyfforddus yn erbyn un o dimoedd cryfach y byd.  Roedd y ddau gôl-geidwad yn brysur; roedd rhaid i Wayne Hennessey arbed ymdrechion Edison Cavani a stopiodd Fernando Muslera peniad Gareth Bale tuag at y cornel gwaelod wrth i’r hanner gyntaf ddod i ben.

Daeth y tîm o De America allan yn gryf yn yr ail hanner a dim ond pedair munud mewn i’r hanner sgoriodd Cavani wrth i Cristian Rodriguez pasio’r bêl iddo groes y gell cosbi.  Cafodd Cavani cyfle arall munudau yn hwyrach o flaen gôl agored ond fethodd yr ymosodwr o Paris Saint Germain cysylltu gyda’r bêl.  Llwyddodd Luis Suarez sgorio heibio Hennessey ond roedd y gôl heb gyfri wrth i Suarez cael ei danfon nôl am gamsefyll.

Roedd yna gyfleoedd i ni gael rhywbeth allan o'r gêm ond methom ni cael unrhyw beth.  Allwn ni ddysgu o'r profiad, roedd nifer o bwyntiau positif i gymryd o'r gystadleuaeth.

– Gareth Bale

Gwnaeth Ryan Giggs nifer o eilyddion wrth iddo roi gemau cyntaf i’r amddiffynnwr Connor Roberts a’r ymosodwr Billy Bodin.  Roedd yr eilyddion wedi medru dal ei dir yn erbyn carfan o Wrwgwai a oedd yn cynnwys nifer o chwaraewyr gyda dros 100 o gapiau.

Cafodd Lee Evans ddau gyfle o bell ond er y pwysau hwyr, fethodd Cymru torri lawr amddiffyn cryf Wrwgwai oedd yn medru gweld y gêm allan er mwyn sicrhau buddugoliaeth yng Nghwpan Tsieina 2018.

Cymru: Wayne Hennessey, Declan John (Connor Roberts 59’), James Chester (Tom Lockyer 75’), Ashley Williams, Ben Davies (Ryan Hedges 90’), Chris Gunter (Adam Matthews 79’), Joe Allen, Andy King, Gareth Bale, Harry Wilson (Lee Evans 72’), Sam Vokes (Billy Bodin 67’)

Wrwgwai: Muslera, Varela, Gimenez (Coates 8’), Godin, Laxalt, Nandez (Stuani 85’), Bentancur (Silva 78’), Vecino, Rodriguez (Torreira 70’), Suarez, Cavani (Gomez 93’)

Cerdyn Melyn: J Allen

Gôl: E Cavani (49’)