Ryan Giggs yn enwi carfan o 31 ar gyfer gêm ragbrofol cyntaf EWRO 2020
International
12 Mawrth 2019

Ryan Giggs yn enwi carfan o 31 ar gyfer gêm ragbrofol cyntaf EWRO 2020

Heddiw (Mawrth 12) fe gyhoeddodd Ryan Giggs garfan o 31 chwaraewr ar gyfer dwy gêm gyntaf Cymru yn 2019 – y gêm gyfeillgar yn erbyn Trinidad & Tobago yn y Cae Ras a’r gêm ragbrofol cyntaf o EWRO 2020 yn erbyn Slofacia.

Gêmau Cymru

Cymru v Trinidad & Tobago

  • Dydd Mercher 20 o Fawrth, 19:45
  • Cae Ras, Wrecsam

Cymru v Slofacia

  • Dydd Sul 24 o Fawrth, 14:00
  • Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd

Mae Will Vaulks wedi cael ei alw i’r garfan am y tro cyntaf ar ôl creu argraff ar y rheolwr fel capten Rotherham United.

Mae Neil Taylor yn dychwelyd i’r garfan yn ogystal â Ryan Hedges a Lee Evans, dau oedd wedi bod yn rhan o’r garfan yn y paratoadau cyn gêm Mecsico’r llynedd. Mae Ben Davies hefyd yn ôl yn y garfan ar ol colli allan ym mis Tachwedd trwy waharddiad.

Bydd Cymru yn paratoi ar gyfer eu gêm ragbrofol Ewropeaidd cyntaf mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Trinidad & Tobago, ble bydd eu rheolwr Dennis Lawrence yn dychwelyd i’r Cae Ras ar Fawrth yr 20fed.

Y gêm yn erbyn Slofacia ar Fawrth 24ain fydd gêm Ewropeaidd cyntaf Cymru ers cyrraedd rownd gynderfynol yr Ewros yn 2016 a bydd Ryan Giggs heb os yn gobeithio efelychu llwyddiant yr ymgyrch hanesyddol honno yn Ffrainc.

Gellir prynu tocynnau ar gyfer Cymru v Slofacia yma:  www.faw.cymru/tickets

SQUAD TRINIDAD SLOVAKIA.jpg