PARC Y GLOWYR YN AGOR YN SWYDDOGOL
About FAW
23 Medi 2019

PARC Y GLOWYR YN AGOR YN SWYDDOGOL

Cafodd y Ganolfan Datblygu Pêl-droed Genedlaethol newydd yn Wrecsam, Parc y Glowyr, ei agor yn swyddogol ddydd Sul 22ain o Fedi.

Roedd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) Jonathan Ford, hyfforddwr Cymru Robert Page a’r Llywydd Kieran O’Connor yn bresennol, yn ogystal â phrif bartneriaid y prosiect a chefnogwyr o UEFA, Llywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam i ddathlu agoriad y ganolfan newydd.

Cyn y seremoni agoriadol, ymunodd aelodau o CBDC â ‘Chymdeithas Ymddiriedolaeth Glowyr Gogledd Cymru a Chofeb Trychineb Pwll Glo Gresffordd’ mewn gwasanaeth coffa ger Cofeb Olwyn y Glowyr ym Mhandy i dalu teyrnged i’r rheiny a gollodd eu bywydau yn y drychineb ar fore Sadwrn, 22ain o Fedi 1934.

Wedi’i leoli ar safle Pwll Glo Gresffordd, mae’r cyfleusterau hyfforddi o’r radd flaenaf ym Mharc y Glowyr yn cynnwys; dau gae gwair, cae 3G, mannau hyfforddi, ystafelloedd dysgu ac ystafelloedd newid.

Mae’r cyfleusterau ym Mharc y Glowyr eisoes wedi cael eu defnyddio gan garfan Ryan Giggs a’r tîm dan 21 cyn eu gemau rhagbrofol Ewro 2020 UEFA ac Ewro Dan 21 2021 UEFA. Mae sawl twrnamaint wedi cael ei gynnal yno hefyd, gan gynnwys Twrnamaint Datblygu Dan 15 UEFA a Chwpan Cymru.

Bydd y Ganolfan Datblygu Pêl-droed Genedlaethol o fudd i bêl-droed Cymru ar lefel lleol a’n genedlaethol, gan roi cyfleoedd datblygu, recriwtio a chyfranogiad ehangach i fechgyn a merched ifanc yn ogystal â’r gweithlu pêl-droed yng Ngogledd Cymru. 

Dywedodd Brif Weithredwr CBDC, Jonathan Ford, “Cafodd CBDC ei sefydlu yn Wrecsam yn 1876 ac mae’n wych gweld y ganolfan datblygu Pêl-droed Genedlaethol yn cael ei leoli mewn ardal sydd mor arwyddocaol yn hanes pêl-droed Cymru ac mae’n braf dathlu hyn gydag ein partneriaid prosiect yma heddiw.

“Ry’n ni’n edrych ymlaen i Barc y Glowyr gyd-fynd â’r gwaith ym Mharc y Ddraig i godi safon pêl-droed Cymru a chryfhau ein llwybr i chwaraewyr, hyfforddwyr, gweithlu ac ein cyfleoedd datblygu.”

P2019-09-22_ColliersParkOpening_213.jpg
P2019-09-22_ColliersParkOpening_124.jpg
P2019-09-22_ColliersParkOpening_027.jpg
P2019-09-22_ColliersParkOpening_101.jpg
P2019-09-22_ColliersParkOpening_106.jpg