Ludlow yn galw nôl Dykes a Fishlock i wynebu’r Eidal
International
14 Ionawr 2019

Ludlow yn galw nôl Dykes a Fishlock i wynebu’r Eidal

DIWEDDARIAD 17/01/19: Mae Hannah Miles wedi cymryd lle Ffion Morgan ar ôl iddi hi dynnu allan gydag anaf.

Mae rheolwr Cymru Jayne Ludlow wedi cyhoeddi carfan o 24 chwaraewr, gan gynnwys Loren Dykes a Jess Fishlock, i wynebu’r Eidal yn Cesena ar Ddydd Mawrth, 22 Ionawr.

Yr Eidal v Cymru

  • KO 17:00 GMT
  • Dydd Mawrth 22 Ionawr
  • Stadio Dino Manuzzi, Cesena

Bydd y gêm yn fyw trwy sianeli cyfryngau cymdeithasol CBDC

Ar ôl cael seibiant yn ystod y gemau yn erbyn Portiwgal ym mis Tachwedd, bydd Dykes a Fishlock yn ail-ymuno â charfan gref sydd yn cynnwys Sophie Ingle, Natasha Harding ac Angharad James. Wrth i’r garfan baratoi ar gyfer rownd rhagbrofol Euro Merched UEFA 2021, mae Ludlow wedi enwi pedair chwaraewr sydd heb eu capio ac wyth chwaraewr dan 21 oed yn y garfan.

Er y bydd hi’n rhan o’r sesiynau ymarfer, ni fydd Kayleigh Green yn cymryd rhan yn y gêm ar ôl cael cerdyn coch yn y gêm ddi-sgôr yn erbyn Portiwgal ond bydd cyfle i Hayley Ladd gael ei hanner canfed cap pe bai hi’n chwarae.

Bydd y gêm yn her i garfan Ludlow yn erbyn tîm fydd yn cymryd rhan yng Nghwpan y Byd Merched FIFA ym mis Mehefin. Chwaraeodd y ddau dîm yn erbyn ei gilydd yng Nghwpan Cyprus mis Mawrth diwethaf, ble enillodd yr Eidalwyr 3-0 trwy ddwy gôl gan Cristiana Girelli a gôl hwyr gan Greta Adami.

Bydd cefnogwyr yn medru gwylio’r gêm yn fyw trwy gyfryngau cymdeithasol CBDC a Chymdeithas Pêl-droed yr Eidal.

Squad gfx CYM.jpg