Lleoliadau wedi'i cyhoeddi ar gyfer Rownd Elît #U19EURO
International
31 Gorffenaf 2020

Lleoliadau wedi'i cyhoeddi ar gyfer Rownd Elît #U19EURO

Fe fydd tîm D19 Cymru yn chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd am y tro gyntaf, ar ôl i leoliadau’r twrnamaint cael ei gyhoeddi.

Fe fydd y twrnamaint, a gafodd ei ohirio ym mis Mawrth oherwydd COVID-19, yn cymryd lle yn fis Medi. O dan reolaeth Rob Edwards, bydd Cymru yn wynebu'r Almaen (2 Medi) a Serbia (5 Medi) yn Stadiwm Leckwith, Caerdydd cyn wynebu Awstria (8 Medi) yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Wnaeth carfan Edwards cyrraedd y Rownd Elît ar ôl curo'r Rownd Ragbrofol ym mis Tachwedd. Gyda charfan gref yn cynnwys Neco Williams, Morgan Boyes a Keenan Patten, fe wnaeth Cymru curo Gwlad Pwyl (3-0) a Cosofo (2-0), yn ogystal â gêm gyfartal yn erbyn Rwsia (2-2).

Bydd y gemau yn cael eu chwarae tu ôl i ddrysau caeedig yn ôl penderfyniad UEFA. Bydd UEFA a CBDC yn parhau i ddilyn canllawiau perthnasol y Llywodraeth a bydd cefnogwyr yn cael eu hysbysu os bydd trefniadau’n newid.

All Fixtures Twitter.jpg