Gwyliwch gemau tîm D21 Cymru yn fyw ar-lein ar Sgorio
International
30 Medi 2021

Gwyliwch gemau tîm D21 Cymru yn fyw ar-lein ar Sgorio

Wrth i dîm D21 Cymru deithio i Ewrop dros y bythefnos nesaf, bydd modd gwylio eu dwy gêm yn fyw ar-lein ar Sgorio.

UEFA U21 EURO QUALIFYING ROUND

Moldofa v Cymru

  • 16:00 Dydd Gwener 8 Hydref

Yr Iseldiroedd v Cymru

  • 19:00 Dydd Mawrth 12 Hydref

Gemau yn fyw ar Sgorio

Bydd y tîm D21 yn parhau a’u hymgyrch rhagbrofol UEFA Euro D21 2023 ar ddechrau mis Hydref gyda dwy gêm oddi cartref yn erbyn Moldofa a’r Iseldiroedd.

Bydd y ddwy gêm i’w gweld yn fyw ar-lein ar S4C Clic a thudalennau Facebook ac YouTube Sgorio.

Wedi gêm gyfartal ddi-sgôr gartref yn erbyn Moldofa a buddugoliaeth wych o bedwar gôl i ddim oddi cartref yn erbyn Bwlgaria hyd yma, bydd tîm Paul Bodin yn anelu i barhau a’u rhediad di-guro yn y ddwy gêm oddi cartref yma.

Yn gyntaf, bydd tîm D21 Cymru yn mynd benben â Moldofa am 4.00yh Ddydd Gwener 8 Hydref, gyda’r gêm i’w gweld yn fyw ar-lein, cyn y gêm hollbwysig rhwng y Weriniaeth Tsiec a thîm y dynion hwyrach yn y nôs.

Yna ar nos Fawrth 12 Hydref, bydd y tîm D21 yn gwneud y daith i Nijemen i herio’r Iseldiroedd, gyda’r gêm yn cael ei ddarlledu yn fyw ar-lein gan Sgorio am 7.00yh.

Squad graphic Twitter.png