GÔL YN Y FUNUD OLAF YN BWRW CYSGOD DROS BERFFORMIAD CYMRU
International
12 Tachwedd 2018

GÔL YN Y FUNUD OLAF YN BWRW CYSGOD DROS BERFFORMIAD CYMRU

Foli gan amddiffynnwr Portiwgal, Carole Costa, yn cipio canlyniad o afael Cymru yn Rio Maior er gwaethaf perfformiad trawiadol.

PORTIWGAL 1-0 CYMRU

Gêm Ryngwladol Gyfeillgar

Goliau: C Costa (90')

Rhoddodd y rheolwr Jayne Ludlow ei ffydd yn chwaraewyr ifanc y garfan. Dechreuodd cyn-gapten y tîm Dan 19, Ffion Morgan, ei gêm gyntaf ar y lefel uchaf a chafodd Elise Hughes, a hithau’n 17 oed, ei dewis yng nghanol y cae, tra bo Gemma Evans hefyd yn chwarae am y tro cyntaf ers Cwpan Cyprus ym mis Mawrth. Daeth dechrau digon bywiog gan Gymru wrth iddyn nhw ymdopi â sawl cic gornel gan Bortiwgal yn y cyfnod agoriadol, a llwyddodd amddifynffa gadarn Cymru i lesteirio unrhyw fygythiad go iawn gan y gwrthwynebwyr.

Gyda’r glaw yn disgyn yn drwm yn yr hanner cyntaf, daeth cyfle gorau Cymru wrth i Kayleigh Green roi pwysau ar linell ôl Portiwgal, a gorfodi cyfle i Natasha Harding a welodd ei hymdrech yn glanio ychydig yn llydan o’r gôl.

Yn yr ail hanner, roedd Harding unwaith eto yn wynebu’r gôl, y tro hwn yn cwrdd â phêl wedi’i bwydo gan Helen Ward. Ond hedfanodd ei hergyd gadarn yn syth i ddwylo’r gôl-geidwad Ines Pereira. Gyda’r ddau dîm yn setlo mewn i’r gêm, bachodd Ludlow ar y cyfle i sefydlu mwy o ddreigiau ifanc, a daeth Ella Powell, sy’n ddeunaw oed, ymlaen am ei gêm gyntaf i’r tîm cyntaf i arwain yr ymosod ochr yn ochr â Kylie Nolan a Hannah Miles. Yn y cyfamser, fe wnaeth Ludlow hefyd gyflwyno Megan Wynne am ei gêm gyntaf i Gymru ers 2013. Manteisiodd y gefnwraig ar y cyfle i wthio Cymru ymlaen am gôl fuddugol.

Roedd e’n berfformiad gwych ac roedden ni’n anlwcws iawn i adael gôl i mewn ar y diwedd un. Fe ddalion ni yn gadarn drwy gydol y gêm ac fe berfformiodd pawb yn dda. Gobeithio y gallwn ni adeiladu ar hyn ar gyfer y gêm ddydd Mawrth.

– Jayne Ludlow

Er gwaethaf pwysau gan y cywion ifanc, roedd Portiwgal hefyd yn pwyso am y gôl fuddugol tuag at ddiwedd y gêm. Daeth cic gornel yn y munudau olaf, ac ar ôl i Gymru glirio’r bêl yn aflwyddiannus i ymyl eu blwch, daeth y bêl i Carole Costa, a lwyddodd i ganfod pen uchaf y rhwyd gyda foli fendigedig.

Bydd tîm Ludlow nawr yn gobeithio dod dros y canlyniad a thalu’r pwyth yn ôl wrth iddyn nhw wynebu Portiwgal am ail gêm nos Fawrth 13 Tachwedd.

1. L O'Sullivan, 2. F Morgan (13. M Wynne 90'), 3. G Evans, 4. S Ingle (C), 6. N Lawrence, 14. H Ladd, 8. A James, 10. E Hughes, 7. N Harding (16. E Powell 67'), 9. K Green (11. K Nolan 81'), 20. H Ward (18. H Miles 81')

Eilyddion na ddefnyddiwyd: 12. C Skinner, 21. E Gibbon 5. R Roberts, 15. Ch Williams, 17. C Estcourt, 19. K Isaac, 22. Ch Williams.