Gohirio Cystadleuaeth Farddoniaeth Cymru Ewro 2020
International
26 Mawrth 2020

Gohirio Cystadleuaeth Farddoniaeth Cymru Ewro 2020

Yn dilyn penderfyniad UEFA i ohirio cystadleuaeth bêl-droed EWRO 2020 am 12 mis, bydd Cystadleuaeth Farddoniaeth Cymru Ewro 2020 hefyd yn cael ei gohirio tan 2021.

Dilynwch @FAWales a @LlenCymru ar Twitter am yr wybodaeth ddiweddaraf.

Mae CBDC a Llenyddiaeth Cymru yn falch o gadarnhau bydd y gystadleuaeth y flwyddyn nesaf yn dal i wahodd plant Cymru i gyflwyno cerddi ar y thema Hunaniaeth. Bydd y gystadleuaeth y flwyddyn nesaf hefyd yn cael ei beirniadu gan yr un panel, a bydd yr un gwobrau gwych ar gael i’w hennill.

Nodwch na fydd cerddi a gyflwynwyd eleni yn cael eu cadw ar ffeil. Bydd angen i'r rhai sy'n dymuno cyflwyno'r un gerdd/cerddi wneud hynny eto pan fydd y gystadleuaeth yn agor y flwyddyn nesaf.

Hoffai CBDC a Llenyddiaeth Cymru bwysleisio y bydd plant a oedd yn gymwys ar gyfer y gystadleuaeth eleni yn gymwys i gystadlu’r flwyddyn nesaf, gyda'r meini prawf yn newid ychydig i ganiatáu i blant ym mlwyddyn 7 gyflwyno.

Bydd CBDC a Llenyddiaeth Cymru yn parhau i gydweithio yn ystod yr amser hwn i gynnig cyfleoedd pellach i blant ac oedolion ledled Cymru i fynegi eu hunain trwy farddoniaeth a llenyddiaeth.