Datganiad: Cymru v Awstria & Cymru C v Lloegr C
About FAW
13 Mawrth 2020

Datganiad: Cymru v Awstria & Cymru C v Lloegr C

Heddiw, mae CBDC yn cyhoeddi fod y gêm rhwng Cymru ac Awstria ar 27ain o Fawrth 2020 yn Stadiwm Liberty wedi cael ei ganslo oherwydd sefyllfa COVID-19.

Mae’r gêm rhyngwladol Cymru C yn erbyn Lloegr C yn yr Oval ar y 24ain o Fawrth 2020 hefyd wedi’i ganslo. Mae CBDC wedi gwneud y penderfyniad yn sgil y datblygiadau diweddar, gan mai iechyd a diogelwch cefnogwyr, chwaraewyr a rhanddeiliauid yw’r flaenoriaeth.

O ran tocynnau sydd eisoes wedi eu prynu, gall CBDC gadarnhau’r canlynol:

  • Bydd pob archeb yn cael ei ad-dalu’n llawn yn unol â phris swyddogol y tocynnau a brynwyd.
  • Bydd ad-daliadau’n cael eu prosesu dros y 14 diwrnod gwaith nesaf a bydd yn cael ei ad-dalu i bob cwsmer yn yr un ffordd ag y talwyd am y tocynnau. I’r rheiny ddefnyddiodd arian parod neu siec i dalu, bydd yr ad-daliad yn cael ei wneud drwy drosglwyddiad banc.
  • Bydd ad-daliadau cerdyn yn cael eu prosesu yn ôl i’r cerdyn credit neu debit a ddefnyddiwyd ar gyfer yr archeb. Os yw’r cerdyn hwn wedi dod i ben bydd aelod o’r tîm tocynnau yn cysylltu â chi ar gyfer prosesu’r ad-daliad.
  • Mae’r tocynnau sydd eisoes wedi eu derbyn yn ddi-rym ac ni fydd modd eu defnyddio ar gyfer unrhyw gêm yn y dyfodol.