Cyn-chwaraewyr yn enwi carfan Cymru i wynebu Slovenia ac Estonia
International
14 Hydref 2021

Cyn-chwaraewyr yn enwi carfan Cymru i wynebu Slovenia ac Estonia

Mae nifer o gyn-chwaraewyr Cymru wedi enwi carfan Gemma Grainger ar gyfer gemau ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd FIFA Merched 2023, fel rhan o ddathliadau 200fed gêm tîm y merched.

Chwaraewyd Cymru ei gêm swyddogol gyntaf ym mis Medi 1993 yn erbyn Gwlad yr Iâ yn Afan Lido, a fydd tîm Grainger yn chwarae’r 200fed gêm allan yn Lendava, Slofenia, ar ddydd Mawrth 22 o Hydref. Fe wnaeth nifer o gyn-chwaraewyr dros y 28 mlynedd diwethaf â’r tîm answyddogol o blynyddoedd cynt cyhoeddi’r garfan mewn fideo aeth allan ar sianelu cyfryngau cymdeithasol CBDC.

Gyda charfan lawn ar gael, mae Grainger yn croesawi nôl Hannah Cain a chollodd allan mis diwethaf oherwydd anaf. Mae Sophie Ingle a Jess Fishlock yn dod mewn i’r wythnos ryngwladol ar ôl nifer o ganlyniadau da i’w clybiau.

Ar ôl y gêm yn erbyn Slofenia, bydd y garfan yn dychwelyd yn ôl i Gymru i wynebu Estonia ar ddydd Mawrth 26 o Hydref yn Stadiwm Dinas Caerdydd (KO 19:15). Mae tocynnau ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Estonia ar faw.cymru/tickets, efo phrisiau yn dechrau o £2 (archebion grŵp) a £4 (archebion unigol).

Cymru: Laura O’SULLIVAN (Cardiff City Ladies), Olivia CLARK (Coventry United), Poppy SOPER (Plymouth Argyle), Hayley LADD (Manchester United), Gemma EVANS (Reading), Rhiannon ROBERTS (Liverpool), Esther MORGAN (Tottenham Hotspur), Rachel ROWE (Reading), Lily WOODHAM (Reading), Sophie INGLE (Chelsea), Anna FILBEY (Charlton Athletic), Angharad JAMES (North Carolina Courage), Josie GREEN (Tottenham Hotspur), Charlie ESTCOURT (Coventry United), Jess FISHLOCK (OL Reign), Carrie JONES (Manchester United), Chloe WILLIAMS (Manchester United), Ffion MORGAN (Bristol City), Megan WYNNE (Charlton Athletic), Natasha HARDING (Reading), Hannah CAIN (Leicester City), Ceri HOLLAND (Liverpool), Kayleigh GREEN (Brighton & Hove Albion), Helen WARD (Watford), Elise HUGHES (Charlton Athletic), Georgia WALTERS (Liverpool).