Cymru i wynebu Seland Newydd ym mis Mehefin
International
4 Mai 2022

Cymru i wynebu Seland Newydd ym mis Mehefin

Bydd Cymru yn wynebu Seland Newydd, yng ngêm gyfeillgar ryngwladol ar ddydd Mawrth 28 o Fehefin (CG 18:00 BST) yn Pinatar yn Sbaen.

Fe wnaeth y ddwy wlad cwrdd ddiwethaf ym mis Mehefin 2019, pan wnaeth gôl gan Kayleigh Green sicrhau buddugoliaeth 1-0 i Gymru yn Stadiwm Leckwith, Caerdydd. Dyma’r ail dro fydd garfan Gemma Grainger yn teithio i dde-ddwyrain Sbaen eleni, ar ôl cymryd rhan mewn cystadleuaeth Cwpan Pinatar 2022 ym mis Chwefror.

Mae Seland Newydd wedi’i leoli yn yr 22ain safle yn ddetholiadau’r byd FIFA, a fydd y wlad yn cynnal pencampwriaeth Cwpan y Byd Merched FIFA gydag Awstralia blwyddyn nesaf. Mae Cymru yn eistedd yn ail yn y grŵp rhagbrofol i gyrraedd y cystadleuaeth, gyda dau gêm allweddol i fynd yn erbyn Groeg a Slofenia er mwyn cyrraedd y gemau ail-gyfle.

Mae hwn yn gyfle da i ni baratoi ar gyfer ein gemau grŵp rhagbrofol olaf ym mis Medi. Dyma’r cam nesaf i ni ddatblygu’r tîm. Mae Seland Newydd yn safle uwch na Chymru yn ôl detholiadau FIFA, ac ni yn edrych ymlaen at herio ein hun yn erbyn tîm cryf unwaith eto.

– Gemma Grainger
Cymru_NZ_Landscape.jpg