Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cyhoeddi bod aelodau’n cefnogi’r newidiadau sylweddol i Reolau’r Gymdeithas
About FAW
5 Chwefror 2019

Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cyhoeddi bod aelodau’n cefnogi’r newidiadau sylweddol i Reolau’r Gymdeithas

Mae newidiadau pellgyrhaeddol a sylweddol i Reolau Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi’u cymeradwyo gan aelodau’r Gymdeithas. Bydd y newidiadau i’r rheolau, a ddaeth yn sgil argymhellion gan Gyngor CBDC i ddiwygio ei strwythurau Llywodraethu, yn moderneiddio ac yn symleiddio'r ffordd y caiff penderfyniadau eu gwneud ar faterion pwysig ar draws pêl-droed yng Nghymru.

Ddydd Iau 29 Ionawr, yn y ‘Cyfarfod Cyffredinol Arbennig ar gyfer Ystyried Rheolau CBDC’ roedd cefnogaeth frwd gan Aelodau CBDC o blaid y newidiadau arfaethedig i Reolau CBDC. Mae’r newidiadau hanesyddol hyn yn ymwneud â strwythur llywodraethu CBDC yn ogystal â gweithredu’r system rheoli pêl-droed newydd arloesol, ‘COMET’.

Mae’r strwythur llywodraethu a gweithredu system ‘COMET’ yn rhan arwyddocaol o ‘Raglen Foderneiddio’ CBDC. Bydd yn datblygu strwythur pêl-droed yng Nghymru, nawr ac yn y dyfodol, ac yn alinio CBDC yn fwy effeithiol â FIFA, UEFA a disgwyliadau eraill rhanddeiliaid.

Mae’r newidiadau nodedig i’r broses lywodraethu a Rheolau CBDC yn cynnwys:

  • Cyflwyno Bwrdd o Gyfarwyddwyr, a fydd yn canolbwyntio’n fanwl ar arwain y Gymdeithas yn gorfforaethol ac o ran busnes.
  • Bydd Cyngor CBDC yn parhau i fod yn gyfranddalwyr ac yn gorff goruchaf (supreme) CBDC a chynrychiolwyr Clybiau sy’n Aelod o CBDC gan ganolbwyntio’n fanwl ar arwain y gêm.
  • Bydd hyd tymor aelodau Cyngor CBDC yn ymestyn o 3 i 4 blynedd yn unol ag UEFA a FIFA, a hynny o 1 Awst 2019.
  • Bydd tymor y Llywydd a’r Is-lywydd yn cael ei ymestyn i (ddim mwy na) 2 dymor o 4 blynedd er mwyn rhoi’r cyfle a’r amser i gwblhau a chyflawni prosiectau allweddol.

Meddai Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru:

Mae CBDC yn hynod falch o gael cefnogaeth yr Aelodau i ddatblygu pêl-droed yng Nghymru ar draws pob lefel. Rydw i wrth fy modd bod CBDC, ei Chyngor a’i Haelodau yn rhoi’r datblygiadau a’r newidiadau cadarnhaol a blaengar hyn ar waith ar draws pêl-droed yng Nghymru er mwyn datblygu a buddsoddi yn ein gêm ymhellach.

– Jonathan Ford