Cipolwg: Cymru v Rwsia
International
9 Mehefin 2018

Cipolwg: Cymru v Rwsia

Cyn i'r tîm menywod wynebu Rwsia yn ei hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd FIFA 2019, cawn ni cipolwg ar beth i ddisgwyl o dîm Elena Fomina.

Cwpan y Byd FIFA 2019

Gêm Rhagbrofol

Cymru v Rwsia

Dydd Mawrth 12 Mehefin 7pm

Stadiwm Casnewydd, Casnewydd

Aeth Rwsia i mewn i'r ymgyrch ar gefn cyrraedd rowndiau terfynol cwpan Ewro UEFA 2017 i ferched, ond ni lwyddon nhw fynd ymhellach na'r grwpiau,

Roedd Rwsia yn edrych yn debygol o barhau drwy’r grŵp yn rowndiau terfynol yr Ewro ar ôl ennill y gêm agoriadol yn erbyn yr Eidal, ond cawsant eu curo gan Sweden a’r Almaen gan gadarnhau eu hymadawiad. Er eu llwyddiant yn cyrraedd y rowndiau terfynol, collodd y tîm yn drwm yn erbyn Lloegr ym mis Medi gyda’u hymgyrch diweddaraf yn dioddef dechreuad gwael.

Yn St Petersburg cynhaliwyd y gêm rhagbrawf gyntaf yn y mis canlynol, gyda sgôr gyfartal 0-0 yn erbyn Cymru. Er gwaethaf chwarae dwy gêm ragbrawf yn unig yn 2017, ni wnaeth Rwsia ddychwelyd i’r rhagbrofion tan fis Ebrill, ond daethant â’r ymgyrch yn ôl ar y trywydd cywir drwy guro Bosnia a Herzegovina 6-1 gyda Nadezhda Smirnova ac Elna Danilova yn sgorio dwy gôl yr un. Aeth y tîm i Kazakstan ychydig o ddyddiau’n ddiweddarach, lle sgoriodd Smirnova dwy a Danilova un arall i ennill 3-0.

Er cyrraedd rowndiau terfynol y tair Cwpan Ewro diwethaf, y tro diwethaf i Rwsia gymryd rhan yng Nghwpan y Byd FIFA i Ferched oedd yn 2003 pan gyrhaeddon nhw’r wyth olaf. Roedd eu rheolwr presennol, Elena Fomina, yn aelod o’r tîm hwnnw. Gyda phedair gêm ar ôl yn yr ymgyrch, Rwsia yw’r tîm y bydd rhaid i Gymru fod yn ofalus ohono, ac mae’n debygol y bydd y gêm yng Nghasnewydd yn chwarae rôl bwysig yn safleoedd y grŵp terfynol.