Carfan D21 Cymru wedi’i chyhoeddi i wynebu Moldova â’r Iseldiroedd
International
28 Medi 2021

Carfan D21 Cymru wedi’i chyhoeddi i wynebu Moldova â’r Iseldiroedd

Mae rheolwr tîm D21 Cymru Paul Bodin wedi enwi 22 chwaraewr ar gyfer dwy gêm ragbrofol pencampwriaeth UEFA EURO D21 2023 i ffwrdd o adre yn erbyn Moldova (Dydd Gwener 8 Hydref) â’r Iseldiroedd (Dydd Mawrth 12 Hydref).

Bydd carfan Bodin yn mynd mewn i’r gemau yn llawn hyder ar ôl fuddugoliaeth wych 4-0 yn erbyn Bwlgaria yn Sofia mis diwethaf. Mae Jack Vale yn y garfan unwaith eto ar ôl sgorio tair gôl yn y gêm mis diwethaf ac mae Brandon Cooper nol gyda thîm D21 ar ôl bod yn rhan o garfan Rob Page mis diwethaf. Gall Bodin croesawi nôl Luke Jephcott a Terry Taylor nol i’r garfan ar ôl colli’r gêm yn erbyn Bwlgaria oherwydd rhesymau COVID. Bydd Siôn Spence hefyd nol gyda’r garfan ar ôl bod yn wahardd am un gêm. Yn anffodus nid yw Ryan Stirk ar gael oherwydd anaf.

Fe wnaeth Cymru wynebu Moldova yn gêm agoriadol y bencampwriaeth ym mis Mehefin yng ngêm ddi-sgôr, ond nid yw Cymru a’r Iseldiroedd wedi wynebu ei gilydd mewn gêm lefel D21 ers 1996.

Squad graphic Twitter.png

Cymru U21: George RATCLIFFE (Cardiff City), Nathan SHEPPERD (Brentford), Dan BARDEN (Livingston- On loan from Norwich City), Billy SASS-DAVIES (Crewe Alexandra), Morgan BOYES (Liverpool), Brandon COOPER (Swansea City), Eddy JONES (Hartlepool United- On loan from Stoke City), Ryan ASTLEY (Everton), Owen BECK (Liverpool), Fin STEVENS (Brentford), Siôn SPENCE, (Bristol Rovers- On loan from Crystal Palace), Terry TAYLOR (Burton Albion), Keenan PATTEN (Cardiff City), Niall HUGGINS (Sunderland), Sam BOWEN (Cardiff City), Sam PEARSON (Bristol City), Joe ADAMS (Brentford), Rhys HUGHES (Everton), Jack VALE (Halifax Town- On loan from Blackburn Rovers), Luke JEPHCOTT (Plymouth Argyle), Isaak DAVIES (Cardiff City), Dan WILLIAMS (Swansea City).