Carfan Cymru wedi’i gyhoeddi ar gyfer rownd derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd FIFA, a Cyngrhair y Cenhedloedd UEFA
International
19 Mai 2022

Carfan Cymru wedi’i gyhoeddi ar gyfer rownd derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd FIFA, a Cyngrhair y Cenhedloedd UEFA

Mae rheolwr Cymru Rob Page wedi dewis carfan o 27-chwaraewr ar gyfer pum gêm ym mis Mehefin, gan gynnwys rownd terfynol y gemau ail-gyfle i gyrraedd pencampwriaeth Cwpan y Byd FIFA.

Prynwch eich tocynnau nawr!

  • Cymru v yr Iseldiroedd (Dydd Mercher 8 o Fehefin)
  • Cymru v Gwlad Belg (Dydd Sadwrn 11 o Fehefin)

Archebwch yma

Bydd y gemau yn dechrau ar ddydd Mercher 1 o Fehefin, wrth i Gymru wynebu Gwlad Pwyl yn Wroclaw, lle bydd carfan Page yn cystadlu yng nghynghrair A am y tro gyntaf yng nghystadleuaeth Cynghrair y Cenhedloedd UEFA. Bydd gêm fawr y mis yn cymryd lle ar ddydd Sul 5 o Fehefin, pan fydd Cymru yn gobeithio creu hanes a lle yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd FIFA eleni, pan fydd buddugoliaeth yn y gêm yn erbyn yr Alban neu Wcrain yn sicrhau lle yn y rowndiau terfynol.

Mae gan Rob Page carfan bron cwbl holliach ar gael, gan gynnwys Gareth Bale ac Aaron Ramsey. Bydd Danny Ward a Kieffer Moore yn ymuno efo’r garfan unwaith eto ar ôl colli allan ym mis Mawrth oherwydd anafiadau, a fydd Nathan Broadhead yn rhan o’r garfan am y tro gyntaf.

Ar ôl y gêm ail-gyfle Cwpan y Byd, fe fydd gan Gymru tair gêm Cynghrair y Cenhedloedd o fewn saith diwrnod. Mae tocynnau ar gyfer y gemau adref yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn erbyn yr Iseldiroedd (Dydd Mercher 8 o Fehefin) a Gwlad Belg (Dydd Sadwrn 11 o Fehefin) ar gael yma.

CYMRU_JUNE_SQUARE_1.jpg

Cymru: Wayne HENNESSEY (Burnley), Danny WARD (Leicester City), Adam DAVIES (Sheffield United), Ben DAVIES (Tottenham Hotspur), Joe RODON (Tottenham Hotspur), Chris MEPHAM (Bournemouth), Chris GUNTER (Unattached), Rhys NORRINGTON-DAVIES (Sheffield United), Connor ROBERTS (Burnley), Neco WILLIAMS (Liverpool), Joe ALLEN (Stoke City), Joe MORRELL (Portsmouth), Ethan AMPADU (Venezia- On loan from Chelsea), Matthew SMITH (MK Dons), Aaron RAMSEY (Rangers- On loan from Juventus), Dylan LEVITT (Manchester United), Rabbi MATONDO (Cercle Brugge- On loan from Schalke 04), Sorba THOMAS (Huddersfield Town), Rubin COLWILL (Cardiff City), Harry WILSON (Fulham), Jonny WILLIAMS (Swindon Town), Gareth BALE (Real Madrid), Daniel JAMES (Leeds United), Mark HARRIS (Cardiff City), Nathan BROADHEAD (Sunderland- On loan from Everton), Kieffer MOORE (Bournemouth), Brennan JOHNSON (Nottingham Forest).