Carfan Cymru wedi’i cyhoeddi ar gyfer camp ymarfer mis Chwefror
International
10 Chwefror 2021

Carfan Cymru wedi’i cyhoeddi ar gyfer camp ymarfer mis Chwefror

Mae carfan Cymru wedi cael ei ddewis ar gyfer camp ymarfer yng ngwesty’r Vale a fydd yn dechrau’r paratoadau ar gyfer ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd Merched FIFA 2023.

Camp ymarfer Cymru

  • Dydd Llun 15 - Dydd Sadwrn 20 Chwefror
  • Gwesty'r Vale, Hensol

Fydd y camp (Dydd Llun 15 Chwefror – Dydd Sadwrn 20 Chwefror) yn gynrychiolaeth gryf o garfan Cymru, gan gynnwys capten Sophie Ingle, Jess Fishlock ac Hayley Ladd ymysg y 26 chwaraewr. Yr unig chwaraewr ni fydd ar gael yw Megan Wynne, sydd yn parhau ei ymarfer i ddychwelyd i’r cae ar ôl anaf ACL.

Dyma’r tro gyntaf bydd y garfan yn cwrdd ers i reolwr y tîm cenedlaethol Jayne Ludlow gadael ei swydd mis diwethaf. Bydd y camp yn cymryd lle dan arweiniant Gyfarwyddwr Technegol CBDC David Adams gyda hyfforddwr D18 Cymru Matty Jones a chyn-chwaraewr Cymru Loren Dykes yn cefnogi.

Bydd yr wythnos yn dechrau'r paratoadau ar gyfer Rownd Rhagbrofol Cwpan y Byd Merched FIFA 2023 a fydd yn dechrau ym mis Medi- gyda Chymru'n darganfod eu gwrthwynebwyr ar 30 Ebrill. Bydd gemau cyfeillgar yn cymryd lle dros y chwe mis nesaf a fydd yn cael ei chyhoeddi dros yr wythnosau nesaf.

Rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r camp wythnos nesaf gyda gweddill y tîm hyfforddi. Ni’n gobeithio cael camp bositif a proffesiynol gyda thargedau personol i bob chwaraewr wrth iddyn nhw ddechrau paratoi tuag at yr ymgyrch cwpan y byd.

– David Adams
Feb Squad Announcement- Twitter-min (1).png

Bydd hi’n anrhydedd enfawr i weithio gyda’r merched yma wythnos nesaf. Mae’n garfan hynod o dalentog gyda chymysg dda o brofiad a chwaraewyr ifanc. Rwy’n edrych ymlaen at y cyfle ac rwy’n gobeithio byddai’n medru cael effaith positif ar y merched yn ystod y camp.

– Loren Dykes

Dros y blynyddoedd mae tîm merched Cymru wedi dod ar draws fel tîm ysbrydoledig a hynod broffesiynol sydd wedi bod yn wych i’r gêm yng Nghymru. Rwy’n gobeithio bydd y camp hyn yn cynnig y cyfle i’r chwaraewyr tyfu’n ymhellach byth ac rwy’n edrych ymlaen at y cyfle i ddatblygu fy sgiliau hyfforddi fy hun gyda thîm newydd.

– Matty Jones

Cymru: Laura O’SULLIVAN (Cardiff City Ladies), Claire SKINNER (Swansea City), Olivia CLARK (Coventry United), Poppy SOPER (Plymouth Argyle), Rhiannon ROBERTS (Liverpool), Gemma EVANS (Bristol City), Maria FRANCIS-JONES (Cardiff City Ladies), Charlie ESTCOURT (London Bees), Hayley LADD (Manchester United), Josie GREEN (Tottenham Hotspur), Nadia LAWRENCE (Cardiff City Ladies), Elise HUGHES (Blackburn Rovers- On loan from Everton), Anna FILBEY (Celtic- On loan from Tottenham Hotspur), Sophie INGLE (Chelsea), Angharad JAMES (Reading), Jess FISHLOCK (Reading- On loan from OL Reign), Carrie JONES (Manchester United), Kylie NOLAN (Cardiff City Ladies), Chloe WILLIAMS (Manchester United), Kayleigh GREEN (Brighton & Hove Albion), Natasha HARDING (Reading), Rachel ROWE (Reading), Helen Ward (London Bees- Dual contract with Watford), Lily WOODHAM (Reading), Georgia WALTERS (Blackburn Rovers), Ffion MORGAN (Crystal Palace).