Caerdydd i gynnal gêm allweddol Cwpan y Byd Merched FIFA ym mis Medi
International
16 Mai 2022

Caerdydd i gynnal gêm allweddol Cwpan y Byd Merched FIFA ym mis Medi

Bydd gêm olaf Cymru yn Rownd Ragbrofol Cwpan y Byd Merched FIFA 2023 yn cael ei gynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd, lle fydd carfan Gemma Grainger yn wynebu Slofenia ar ddydd Mawrth 6 o Fedi (KO 19:15).

Cymru v Slofenia

  • 19:15 Dydd Mawrth 6 o Fedi
  • Stadiwm Dinas Caerdydd

Tocynnau ar werth Dydd Llun 23 o Fai

Mae carfan Grainger yn gobeithio creu hanes wrth i Gymru edrych i gyrraedd y gemau ail-gyfle am y tro gyntaf erioed. Gyda dwy gêm i fynd a Chymru yn yr ail safle yn y grŵp, fydd pedwar pwynt yn y ddwy gêm olaf yn sicrhau lle yn y gemau ail-gyfle.

Y tro diwethaf wnaeth y tîm chwarae yng Nghaerdydd, fe wnaeth Cymru torri’r record am y dorf fwyaf ar gyfer gêm ryngwladol adref, gyda 5,455 o gefnogwyr yn bresennol i wylio’r tîm yn curo Estonia 4-0. Bydd Grainger â’r garfan yn gobeithio gweld y record un cael ei thorri unwaith eto, gyda’r Wal Goch yn cael ei weld fel rhan enfawr o’r ymdrech i greu hanes yng Nghaerdydd.

Bydd tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Slofenia yn mynd ar werth ar ddydd Llun 23 o Fai ar faw.cymru/tickets, gyda phrisiau yn dechrau o £2 (archeb grŵp) a £4 (archeb unigolyn) ar gyfer plant. Ar gyfer y gêm i ffwrdd o adref yn erbyn Groeg ar ddydd Gwener 2il o Fedi, fe fydd gwybodaeth lleoliad a thocynnau yn cael ei chyhoeddi mor fuan â phosib.

Cymru_Slovenia_Landscape_23MAY.jpg