Bodin yn cyhoeddi carfan D21 i wynebu Gwlad Belg
International
5 Tachwedd 2020

Bodin yn cyhoeddi carfan D21 i wynebu Gwlad Belg

Mae rheolwr tîm D21 Cymru Paul Bodin wedi enwi ei garfan i wynebu Moldofa ac yr Almaen ar gyfer Rownd Rhagbrofol Pencampwriaeth UEFA EWRO D21 2021.

Rownd Ragbrofol Pencampwriaeth EWRO D21 UEFA

CYMRU v MOLDOFA

  • 17:00 | 13.11.20
  • Y Cae Ras, Wrecsam
  • Yn fyw ar sianelu CBDC

YR ALMAEN v CYMRU

  • 17:15 | 17.11.20
  • Stadtische, Braunschweig

Bydd y gemau yn gyfle olaf i nifer o chwaraewyr i chwarae yn y tîm D21, yn cynnwys Regan Poole, Cameron Coxe, Mark Harris a Nathan Broadhead. Bydd Liam Cullen, Mo Touray ac Aaron Lewis hefyd yn rhan o’r garfan am y tro diwethaf. Mae’r chwaraewyr canol cae Terry Taylor a Harry Clifton nol yn y garfan, yn ogystal â Luke Jephcott sydd wedi gwella ar ôl anaf.

Fe fydd Cymru yn gwynebu Moldofa ar ddydd Gwener 13 o Dachwedd yn y Cae Ras (cic gyntaf 17:00) cyn teithio i Braunschweig i wynebu’r Almaen ar ddydd Mawrth 17 o Dachwedd (cic gyntaf 18:15). Fe fydd y gêm yn erbyn Moldofa ar gael i wylio am ddim ar sianelu cymdeithasol Facebook a YouTube CBDC.

Mae Cymru wedi cael canlyniadau cymysg yn ystod yr ymgyrch, yn cynnwys buddugoliaeth 1-0 yn erbyn Gwlad Belg llynedd. Mae Cymru ar waelod y grŵp ond fe all garfan Bodin gorffen y grŵp yn y trydydd safle gyda chanlyniadau positif mis hyn.

Fe wnaeth UEFA cyhoeddi newid i strwythur y rownd ragbrofol, oherwydd effaith COVID-19. Fe fydd y naw tîm sydd ar frig ei grwpiau a’r pum tîm gorau yn yr ail safle yn ymuno a Hwngari a Slofenia, sydd yn cynnal y bencampwriaeth blwyddyn nesaf. Bydd rownd grwpiau'r bencampwriaeth yn cymryd lle rhwng 24-31 o Fawrth gyda 16 tîm yn cael ei rhannu mewn i bedwar grŵp, a fydd yr wyth olaf yn dychwelyd i Hwngari a Slofenia ar gyfer gemau un cyfle rhwng 31 Mai – 6 Mehefin.

U21 Squad- Moldova & Germany.png

Adam PRZYBEK (Ipswich Town), George RATCLIFFE (Cardiff City), Lewis WEBB (Swansea City), Cameron COXE (Solihull Moors), Brandon COOPER (Newport County- On loan from Swansea City), Regan POOLE (Milton Keynes Dons), Joe LEWIS (Swansea City), Aaron LEWIS (Newport County- On loan from Lincoln City), Nathan BROADHEAD (Everton), Morgan BOYES (Fleetwood Town- On loan from Liverpool), Terry TAYLOR (Grimsby Town- On loan from Wolverhampton Wanderers), Momodou TOURAY (Salford City), Liam CULLEN (Swansea City), Sam BOWEN (Barry Town United- On loan from Cardiff City), Mark HARRIS (Cardiff City), Siôn SPENCE (Crystal Palace), Oliver COOPER (Swansea City), Luke JEPHCOTT (Plymouth Argyle), Harry CLIFTON (Grimsby Town), Joe ADAMS (Brentford), Ryan STIRK (Birmingham City)