Bae Colwyn wedi eu derbyn i Byramid CBDC
About FAW
29 Mawrth 2019

Bae Colwyn wedi eu derbyn i Byramid CBDC

Mae CBDC heddiw wedi derbyn cais Bae Colwyn i chwarae yn y Pyramid yng Nghymru'r tymor nesaf.

Mi fyddan nhw yn chwarae'r tymor nesaf yng Nghynghrair Newydd Ail Haen CBDC.


Mi fydd 17 o glybiau yn y gynghrair newydd yn ystod tymor 2019-20. Mae hyn yn golygu na fydd effaith ar y clybiau fydd yn disgyn i’r trydedd haen o Gynghrair Huws Gray.

Y tymor nesaf bydd tîm Craig Hogg yn chwarae yng Nghwpan JD Cymru o’r rownd gyntaf ar Hydref 19, 2019.